Cynhadledd a Gweithdai

bullet Gweithdy "Y Gwir am helpu pobl cael gwaith" 2006
  • Nod y gweithdy oedd rhannu arbenigedd yr Uned i “ymrwymo pobl” yn ardaloedd di-freintiedig i mewn i weithgareddau dysgu, a all helpu nhw cael swyddi gwerth chweil
  • Yn mynychu'r gweithdy oedd pobl a oedd yn gweithio mewn ardaloedd Cymunedau Cyntaf
  • Roedd y gweithdy yn llwyddiannus iawn gyda phobl yn rhannu “arfer da” a syniadau prosiect gyda'i gilydd
  • Dengys holiadur o'r gweithdy bod pawb yn “cytuno'n gryf” bod y gweithdy yn berthnasol i waith nhw, a gellir defnyddio'r syniadau ar gyfer y dyfodol
  • Darganfyddiad pwysig yn y gweithdy oedd bod taclo diweithdra mewn ardaloedd cymunedau cyntaf wedi ei brofi'n anodd iawn, a bod angen strategaeth tymor hir o gefnogi dysgu perthnasol. 

Cynhadledd Uned Pobl a Gwaith 2005 
  • Sut i lwyddo dysgu yn y gymuned
  • Nod y gynhadledd oedd sgwrsio am bum pwnc oedd yr Uned yn credu oedd yn bwysig i wneud cymunedau dysgu gweithio. Roedd y pynciau yma yn cynnwys1. Cefnogi addysg 2. Buddsoddiad dwys 3. Dealltwriaeth o'r economi lleol 4. Dysgu sy'n berthnasol 5. Cymdeithas gynwysedig (ble mae'r dynion?). 
  • Roedd dros 70 o bobl wedi mynychu'r gynhadledd, o wahanol gefndiroedd e.e. Cwmnïau Preifat, Llywodraethau lleol, Ymddiriedolaeth Y Tywysog, Colegau, ar Gynulliad. 
  • Roedd y gynhadledd yn llawer o hwyl gyda drama gan “Theatr Spectacle” yn cael ei arddangos, a oedd wedi ei selio ar profiad dysgwyr di-draddodiadol mewn addysg. Hoffwn ddiolch Calvin Jones o Brifysgol Gaerdydd, ac arweinwyr Tîm Codi'r To a Chefnogi Bywyd am ei gyflwyniadau a brofodd yn ddefnyddiol iawn i bawb. 
  • Mae papur a elwir “Creating the Masterplan” yn crynhoi nifer o'r syniadau roeddynt wedi sgwrsio am yn y gynhadledd, gellir ei dadlwytho ar y wefan yma o dan y teitl “Papurau Ymchwil”