Prosiect Cefnogi Bywyd

Life Support project

Cefnogi Bywyd, yw enw'r prosiect a sefydlwyd ym mis Awst 2003 Y nod, dros 5 mlynedd, yw cynnal cynllun peilot a sefydlu rhaglen ar gyfer datblygiad personol, hyfforddiant a chefnogaeth a fydd yn galluogi oedolion ifanc i symud oddi wrth ddiweithdra neu waith di-grefft at swyddi medrus ym maes gofal iechyd gan ganolbwyntio'n benodol ar nyrsio.

 

Amlinelliad o'r Prosiect

Life support project Mae'r prosiect yn targedu rhieni rhwng 18+ oed, gan gynnwys rhieni unigol. Mae datblygiadau polisi diweddar yn canolbwyntio ar yr angen i fynd i'r afael â thlodi trwy ddod â rhieni ifanc i mewn i fyd gwaith. Fodd bynnag, oherwydd cost a diffyg gofal plant mae mamau ifanc, yn benodol, yn parhau i gael eu heithrio rhag cael gwaith a hyfforddiant. Mae yna bryder hefyd nad oes digon o bobl ifanc yn mynd i fyd nyrsio. Ar hyn o bryd mae ysbytai Cymru yn gorfod recriwtio pobl o dramor, ond yr hyn y mae arnyn nhw ei eisiau a'i angen yw recriwtio pobl o'u cymunedau lleol.

Mae Cefnogi Bywyd yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn trwy recriwtio oedolion ifanc, o gymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan Ymddiriedolaethau GIG lleol, a fyddai'n hoffi mynd i nyrsio neu broffesiwn iechyd arall ond a fyddai'n methu gwneud hynny heb y prosiect. Efallai mai'r rheswm am hyn yw nad oes ganddyn nhw mo'r cymwysterau academaidd, yr hyder na'r gefnogaeth angenrheidiol. Mae'r prosiect yn cynnig cwrs cyn-sylfaen, blwyddyn o hyd, yn y gymuned leol, cefnogaeth i ymuno â chwrs sylfaen mewn nyrsio neu iechyd, a chymorth gyda magu hyder, teithio a gofal plant.

Y Bartneriaeth

Life support project Mae Cefnogi Bywyd yn brosiect partneriaeth rhwng yr Uned Pobl a Gwaith,         Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA), Prifysgol Morgannwg, Ymddiriedolaeth Ddatblygu Glynebwy a'r Cylch a Strategaeth Bryncynon. Mae'r prosiect yn cynnwys dau dîm, un yng Nglynebwy a'r llall ym Mryncynon gyda'r ddau bartner cymunedol yn rhoi canolfan i un tîm. Mae'r prosiect yn cyflogi dau diwtor am flwyddyn gyntaf y prosiect i gyflwyno cyrsiau'r flwyddyn baratoadol. Swyddogaeth Prifysgol Morgannwg yw sicrhau bod y myfyrwyr maes o law yn cymryd at fywyd y campws yn ddidrafferth a chyflwyno'r cyrsiau sylfaen a gradd. Swyddogaeth yr Uned Pobl a Gwaith yw rheoli'r prosiect yn gyffredinol, gan arolygu a chyflogi'r arweinyddion tîm a chloriannu'r prosiect yn barhaus. 

Prosiect Cefnogi Bywyd : Y Rhaglen

Noddwyd Cefnogi Bywyd gan y  "Rank Foundation", "Oak Foundation", Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ar Uned Pobl a Gwaith