Prosiect Cefnogi Bywyd : Y Rhaglen

Life Support project

bulletBlwyddyn 1 - y cam paratoadol

Yn y flwyddyn gyntaf o'r prosiect cafodd dau dîm o ddysgwyr eu recriwtio, naw ym Mlaenau Gwent a phump ym Mryncynon. Llynedd y mae'r nifer a recrwtiwyd wedi cynyddu i un ar ddeg ym Mlaenau Gwent a deg ym Mryncynon. Telir eu costau teithio a'u costau gofal plant i gyd. Mae gan bob tîm arweinydd tîm a thiwtor. Swyddogaeth y tiwtor yw datblygu a chyflwyno cwrs wedi'i achredu gyda chefnogaeth Prifysgol Morgannwg a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr, a chyflwyno 4 modiwl OCN ar Lefel 2, yn benodol Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, a 6 modiwl OCN ar Lefel 1, gan roi cefnogaeth academaidd drwyddi draw.

"The tutors have done a cracking job developing the course and modules. I hadn't realised they would have to write it all themselves". (Management team)

Cytunwyd y byddai pasio'r lefelau hyn ynghyd â mynychu'n rheolaidd yn golygu y byddai dysgwyr yn gymwys i gael mynediad at y Cwrs Sylfaen mewn Gwyddor Iechyd ym Mhrifysgol Morgannwg. Yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd oedd i'r tiwtoriaid a'r dysgwyr sylweddoli'n gyflym iawn y gallent nhw gyflawni lefelau uwch na hyn. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd y modiwlau canlynol wedi'u cyflwyno:

Lefel 3 Lefel 2 Lefel 1

Bioleg Ddynol
Sgiliau Astudio
Iechyd Menywod Diffyg Cydraddoldeb Menywod

Sgiliau Pendantrwydd
Gwella Mathemateg
Gwaredu Digwyddiad
Seicoleg Plant
Cymdeithaseg
Gwella'r Saesneg
Rheoli Pwysedd Gwaith

Prosesu Geiriau
Cynllun Gweithredu Personol

Llwyddodd y rhan fwyaf o ddysgwyr i gyflawni rhwng wyth a deuddeg modiwl. Roedd hyn yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau'r prosiect, ond fel y sylweddolwyd mewn gwaith ymchwil ar brosiectau eraill, mae llawer o'r rhai sy'n dychwelyd i ddysgu yn gallu cyflawni graddau da wrth gael y cyfle a'r gefnogaeth briodol.

Gwaith yr arweinydd tîm yw rhoi cefnogaeth bersonol a threfnu gweithgareddau adeiladu tîm a magu hyder, ymweliadau a lleoliadau gwaith. Bu'r Uned Pobl a Gwaith ac arweinyddion timau yn datblygu rhaglen, yn gyfochrog i'r cwrs academaidd, i ddatblygu tîm a datblygiad personol oedd yn cynnwys y canlynol:

Cyrsiau Byr: Life support project

  • Mentora
  • Rheoli Arian
  • Coginio heb wario llawer
  • Gweithdy ar gam-drin yn y cartref
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith

Gweithgareddau magu hyder ac adeiladu tîm:

  • Diwrnod yng Nghanolfan Raffau Llan-gors
  • Cwrs goroesi ar Fannau Brycheiniog
  • 'Dianc o'r dosbarth' (pa mor bell allwch chi fynd ar £2)
  • Bowlio
  • Beiciau cwad
  • Peli paent
  • Helfa drysor a barbiciw
Gweithgareddau yn gysylltiedig â iechyd: Life support project
  • Sgyrsiau gan weithwyr iechyd proffesiynol cymwys, gan gynnwys nyrs, parafeddyg, therapyddion amgen, gweithiwr cymdeithasol
  • Ymweliadau ag Ysbyty St Thomas ac Amgueddfa Florence Nightingale, Llundain; gorsaf dân lleol; teithiau treftadaeth
  • Lleoliadau gwaith am bythefnos mewn ysbytai lleol i bob dysgwr
  • Sesiynau chwaraeon a lles yn y gymnasiwm; nofio; yoga; sesiynau cael gwared ar straen (yng Ngholeg y Rhondda a Choleg Gwent); aerobeg dwr; badminton

Gweithgareddau i'r Teulu:

  • Teithiau siopa Nadolig
  • Parti Nadolig
  • Ymweliad â Siôn Corn
  • Nofio
  • Gwersylla
  • Fferm Gymuned Cwmbrân

Gweithgareddau eraill:

  • Ymweliadau â phrifysgolion - diwrnodau agored; defnyddio'r llyfrgell; cael mynd i ddarlith
  • Cyfweliadau ffug
  • Cyflwyniadau ar gyfer wythnos Dysgwyr sy'n Oedolion NIACE ac ar gyfer noddwyr y prosiect.

Dilyniant


Ar ddiwedd y cam paratoadol hwn y bwriad oedd i'r dysgwyr gael cefnogaeth wrth ddewis eu llwybrau unigol. Cafodd pob dysgwr gyfle i drafod cynnydd a'u targedau personol yn y dyfodol gyda'u tiwtoriaid a'u harweinyddion tîm.

I've seen a difference in all of them in attitude to learning and responsibility
(Project Partner)

She did very well, very enthusiastic - and sensitive to other people on the ward.
(NHS Work placement manager)

Erbyn Ebrill 2007 o'r 14 o ddysgwyr a ymunodd gyda'r prosiect yn  2003:

  • 1 yn y flwyddyn olaf o radd nyrsio mewn anabledd dysgu
  • 2 yn y drydedd flwyddyn ar y radd nyrsio mewn nyrsio oedolion
  • 2 yn y flwyddyn gyntaf o radd nyrsio mewn nyrsio oedolion
  • 1 yn ail-wneud y flwyddyn gyntaf mewn cymdeithaseg
  • 1 yn yr ail flwyddyn o radd mathemateg
  • 1 yn gweithio fel nyrs gynorthwyol yn ysbyty lleol gan ddilyn y llwybr NVQ
  • 1 yn magu plentyn, wedi cwblhau "Basic Expedition Leadership Award (BELA)" gyda'r prosiect ac yn cynllunio cofrestru ar gwrs addysg bellach
  • 1 wedi gadael oherwydd iechyd gwael. Mae wedi gwella nawr ac yn gwirfoddoli ar gyfer cymdeithas gymunedol leol, mae dal mewn trafodaeth gyda'r Uned ac mae'n gobeithio ail-ymuno yn y dyfodol
  • 2 yn gadael y prosiect yn gynnar
  • 1 yn gadael y cwrs sylfaenol gan fod hi'n magu plentyn
  • 1 wedi colli cysylltiad gyda'r prosiect

O'r 21 o ddysgwyr a ymunodd gyda'r phrosiect yn 2005:

  • Un wedi cyflawni cymhwyster CACHE lefel 3 a ddechreuodd gradd nyrsio ar Fawrth 2007
  • 5 ar gwrs sylfaenol mewn gwyddoniaeth iechyd
  • 1 wedi symud ymlaen i wneud gradd mathemateg sylfaenol yn Ionawr 2006 ond wedi dewis i beidio dilyn y radd am flwyddyn
  • 1 ar gwrs CACHE lefel 1 ac mae hi hefyd yn gwneud TGAU yn Saesneg
  • 1 yn gwirfoddoli fel cynorthwyydd dosbarth ac yn gwneud NVQ lefel 1 mewn gofal plant
  • 3 yn feichiog ac maent yn dal i dderbyn cefnogaeth o'r prosiect i balu ymlaen i ddysgu
  • 5 yn cael eu cefnogi gan y prosiect i ystyried eu opsiynau gan gymryd rhan mewn cwrs datblygiad personol, ond maen nhw heb benderfynu beth i'w wneud eto. 
  • 3 gadael y cwrs yn gynnar

This is a phenomenal number to be going on to Higher Education - it's amazing. (Project Partner)

Ar gyfer y rhai a ymgeisiodd i ymuno gyda'r prosiect Cefnogi Bywyd, ond methodd cael lle, ac i'r rhai a gadawodd yn gynnar, roedd yna gefnogaeth barhaol ar gael.

bullet Go to top

bullet Blwyddyn 2 - rhagor o hyfforddiant
Bydd y prosiect yn dal ati i gefnogi'r dysgwyr, beth bynnag fydd eu camau nesaf. Bydd tiwtor yn rhoi cefnogaeth barhaus wrth i'r dysgwyr symud ymlaen trwy'r coleg neu'r brifysgol. Swyddogaeth yr arweinydd tîm yw parhau i gefnogi'r dysgwyr trwy broblemau gydag arian, gofal plant, iechyd, diffyg hyder ac ysgogiad. Heb gefnogaeth, fe allai dysgwyr adael y rhaglen yn gyfan gwbl. Bydd y dysgwyr hefyd yn parhau i dderbyn help gyda gofal plant a chludiant

bulletYnghylch gwaith tîm: bullet Ynghylch y tiwtoriaid:

'It's good fun. And it does help - you need teamwork in hospital and learning to work under pressure. And it's a break from the books which is nice.'

"I really enjoyed myself, we had a great time…..I feel more confident in myself and I feel like I really achieved something."

"The learning side of it I'm really enjoying. (The tutor) explains where I'm getting things right and wrong and we get good feedback. Doing well in English really boosted my confidence. And little comments on the work, like 'well done' really help. I've never enjoyed writing before but I'm enjoying it now".
bulletYnghylch yr arweinyddion tîm: bullet Amdanynt eu hunain:
"Brilliant - and the activities have given me so much confidence. And when we get something more challenging that's really good. And you push yourself because you don't want to let (the team leader) down. You want to push yourself".

"I have found that I have become a more confident person in my general attitude and in my written work. I may need some help with my maths next term!"

"I have progressed well on this course with my academic ability and confidence increasing more and more. I am very pleased with the feedback I have had from my tutor and team leader and I hope that it will be as positive this time next year".

bullet Go to top

Noddwyd Cefnogi Bywyd gan y  "Rank Foundation", "Oak Foundation", Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ar Uned Pobl a Gwaith